Aberdyfi Community Projects Ltd.
Prosiectau Cymunedol Aberdyfi Cyf.

 
Aethom ati i sicrhau nad oedd yr adeilad sy'n gartref i Swyddfa'r Post a Garej Penrhos yn disgyn i ddwylo datblygwyr eiddo a fyddai bron yn sicr wedi arwain at golli'r ddau fusnes. Mae'n debyg mai Swyddfa'r Post yn arbennig yw'r busnes pwysicaf yn y pentref, nid yn unig am ei wasanaethau post ond hefyd fel canolfan bancio a siop gyffredinol.
 
Gyda chymorth y Gronfa Ffyniant Gyffredin, Cyngor Gwynedd, Cwmpas a nifer o bobl eraill oedd yn gweithio neu’n gwirfoddoli eu hamser, a gyda chymorth ariannol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) llwyddwyd i godi digon o arian i brynu’r adeilad a gwneud gwaith atgyweirio hanfodol er mwyn iddo allu aros fel ased yn y pentref.
 
Sefydlwyd Prosiectau Cymunedol Aberdyfi Cyfyngedig i wneud yn union y math yma o beth, i ddarparu cyflogaeth, tai a chadw gwasanaethau lleol y gall pobl Aberdyfi ac ymwelwyr wneud defnydd ohonynt. Mae’n ddyddiau cynnar ond pe baem yn cael ein mathemateg yn gywir, dylem allu cymryd digon o incwm i ad-dalu’r benthyciadau a chynnal yr adeilad. Neilltuir peth arian i addasu'r uned ganol sy'n wag ar hyn o bryd fel y gellir ei defnyddio eto (gweler y dudalen 'Ymholiadau Busnes'). Os aiff popeth yn unol â'r cynllun a'r costau cychwynnol yn cael eu talu, gallwn ddechrau edrych ar brosiectau eraill yn Aberdyfi.
 
Dyna lle hoffem glywed gennych. Ni fydd yn digwydd am ychydig ond os ydych yn gwybod am rai prosiectau gwerth chweil eraill sy'n darparu cyflogaeth, tai neu sydd o fudd cyffredinol i'r pentref, rhowch wybod i ni drwy'r ffurflen Cysylltiadau er mwyn i ni allu ymchwilio a gwerthuso.
 
Tîm Prosiectau Aberdyfi.